2015 Rhif 1844 (Cy. 272)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) ynghylch y modd y mae’n rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) mewn achosion fel a ganlyn—

(a)     pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth) y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf, neu

(b)     pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y broses y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei dilyn wrth ymgymryd ag asesiad ariannol, a hefyd yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch asesiadau ariannol.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cyflawni asesiad ariannol yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 7 yn pennu’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol yn gymwys, ac amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol gwblhau asesiad ariannol pan nad yw manylion ariannol A wedi eu datgelu’n llawn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch pŵer yr awdurdod lleol i gynnal asesiad ariannol newydd mewn amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y broses y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei mabwysiadu wrth gynnal asesiad o adnoddau ariannol A. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiystyru gwerth unig neu brif gartref A wrth gyfrifo adnoddau cyfalaf A pan fo A yn cael gofal a chymorth yn ei gartref ei hunan (yn hytrach na chael cymorth o’r fath ar ffurf darpariaeth o lety mewn cartref gofal).

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol preswylydd byrdymor (person y darperir llety iddo mewn cartref gofal am gyfnod o ddim mwy nag 8 wythnos) fel pe bai’n cael gofal a chymorth yn ei gartref ei hunan.

Mae rheoliad 11 yn cynnwys darpariaeth arbed sy’n parhau effaith unrhyw asesiad ariannol a gynhaliwyd gan awdurdod lleol, sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (er na chynhaliwyd yr asesiad o dan y Ddeddf nac yn unol â’r Rheoliadau hyn) hyd nes disodlir yr asesiad gan asesiad a gynhelir yn unol â’r Ddeddf a gofynion y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 3 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin a chyfrifo incwm. Mae Atodlen 1 yn nodi’r incwm y mae’n rhaid, neu y caniateir, i awdurdod lleol ei ddiystyru.

Mae Rhan 4 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin a chyfrifo cyfalaf. Mae Atodlen 2 yn nodi’r symiau cyfalaf y mae’n rhaid, neu y caniateir, i awdurdod lleol eu diystyru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

 

 

 


2015 Rhif 1844 (Cy. 272)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

Gwnaed                                 27 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       3 Tachwedd  2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

CYNNWYS

RHAN 1

CYFFREDINOL

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

 

RHAN 2

ASESU ADNODDAU ARIANNOL

3.       Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod lleol

4.       Terfynau amser

5.       Fformat

6.       Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol

7        Amgylchiadau pan nad oes dyletswydd i gynnal asesiad ariannol

8.       Pŵer i gynnal asesiad ariannol

9.       Proses asesiad ariannol

10.     Dyletswydd awdurdod lleol i gynnal asesiad ariannol o breswylydd byrdymor fel pe bai’r preswylydd yn cael gofal a chymorth rywfodd ac eithrio fel darpariaeth o lety mewn cartref gofal                  

11.     Arbediad

12.     Talgrynnu ffracsiynau

 

RHAN 3

TRIN A CHYFRIFO INCWM

13.     Cyfrifo incwm

14.     Enillion sydd i’w diystyru

15.     Symiau eraill sydd i’w diystyru

16.     Cyfalaf a drinnir fel incwm

17.     Incwm tybiannol

 

RHAN 4

TRIN A CHYFRIFO CYFALAF

18.     Cyfrifo cyfalaf

19.     Incwm a drinnir fel cyfalaf

20.     Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig

21.     Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig

22.     Cyfalaf tybiannol

23.     Y rheol cyfalaf tybiannol lleihaol

24.     Cyfalaf a ddelir ar y cyd

 

ATODLENNI

ATODLEN 1 —             Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm

ATODLEN 2 —             Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50(1), 52(1), 53(3), 64(1), 65 a 196(2)o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn([2]):

 

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “A” (“A”) yw oedolyn—

(a)     y mae ei adnoddau ariannol i’w hasesu yn unol â rheoliad 6 neu reoliad 8, neu

(b)     sy’n dod o fewn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7;

mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” o dan Ddeddf 1992;

mae i “credyd cynilion” yr ystyr a roddir i “savings credit” o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan Ddeddf Credydau Treth 2002;

mae i “credyd treth plant” yr ystyr a roddir i “child tax credit” o dan Ddeddf Credydau Treth 2002([3]);

ystyr “cyfleuster ymweld â’r cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) a wneir gan swyddog priodol awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol person neu pa bynnag fan cyfarfod arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan y person, at y diben o gasglu gwybodaeth i’w defnyddio yn yr asesiad ariannol ar gyfer y person hwnnw, a darparu gwybodaeth a chynnig cynhorthwy mewn perthynas â’r broses honno;

mae i “cymhorthdal incwm” yr ystyr a roddir i “income support” o dan Ddeddf 1992;

mae i “cynllun pensiwn personol” yr un ystyr ag a roddir i “personal pension scheme” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “darpar breswylydd” (“prospective resident”) yw person y bwriedir darparu llety mewn cartref gofal([4]) iddo o dan y Ddeddf;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([5]);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—

(a)     dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)     dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu

(c)     gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([6]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o Ddeddf 1992([7]);

mae “enillydd hunangyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” yn adran 2(1)(b) o Ddeddf 1992;

ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi sefydlog a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y person sy’n atebol i dalu am—

(a)     gofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion); neu

(b)     gwasanaethau a ddarperir o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 (darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) o’r Ddeddf;

ystyr “gofal a chymorth ailalluogi” (“reablement”) yw gofal a chymorth—

(a)     a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer A o dan Ran 2 neu 4 o’r Ddeddf; neu

(b)     a sicrheir neu a drefnir gan A, pan fo A neu pan fydd A yn cael taliadau uniongyrchol a wneir yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf; ac

(c)     sydd—

                           (i)    yn cynnwys rhaglen o ofal a chymorth,

                         (ii)    am gyfnod penodedig([8]) o amser (“y cyfnod penodedig”), a

                       (iii)    â’r diben o ddarparu cynhorthwy i A er mwyn galluogi A i barhau i allu byw’n annibynnol yn unig gartref neu brif gartref A neu i allu gwneud hynny eto;

mae i “lwfans byw i’r anabl” yr ystyr a roddir i “disability living allowance” o dan Ddeddf 1992;

mae i “lwfans galwedigaethol anabledd difrifol” yr ystyr a roddir i “severe disablement occupational allowance” a delir o dan erthygl 10 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006([9]) neu o dan erthygl 16 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983([10]);

mae i “lwfans gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian’s allowance” o dan Ddeddf 1992;

mae i “lwfans gweini” yr un ystyr ag a roddir i “attendance allowance” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “oedran credyd pensiwn” (“pension credit age”) yw’r oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth yn yr ystyr a roddir i “the qualifying age” yn adran 1(6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([11]);

mae i “partner” yr un ystyr ag a roddir i “partner” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “preswylydd” (“resident”)yw person y darperir llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf;

ystyr “preswylydd byrdymor” (“short-term resident”) yw person y darperir llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf am gyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;

ystyr “preswylydd dros dro” (“temporary resident”) yw preswylydd y mae ei arhosiad—

(a)     yn annhebygol o fod yn hwy na 52 o wythnosau; neu

(b)     mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw;

ystyr “preswylydd parhaol” (“permanent resident”) yw preswylydd nad yw’n breswylydd dros dro nac yn breswylydd byrdymor;

ystyr “y Rheoliadau Credyd Pensiwn” (“the Pension Credit Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([12]);

 ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987([13]);

ystyr “y Rheoliadau Gosod Ffioedd” (“the Charging Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015([14]);

ystyr “swm safonol” (“standard amount”) yw’r swm y byddai’n ofynnol i berson ei dalu yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf tuag at sicrhau y ddarpariaeth o ofal a chymorth yr ystyrir neu y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hi, pe na bai asesiad ariannol yn cael ei gynnal yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu ddyfarniad ynghylch gallu A i dalu swm yn cael ei wneud yn unol â’r Rheoliadau Gosod Ffioedd;

mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independence payment” o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012([15]);

ystyr “taliad annibyniaeth y lluoedd arfog” (“armed forces independence payment”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011([16]);

mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn adrannau 50(7) a 52(7) o’r Ddeddf;

mae “treth gyngor” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “council tax” yn adran 1(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([17]);

mae i “unig riant” yr un ystyr ag a roddir i “lone parent” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

(2) Pan gyfeirir yn y Rheoliadau hyn at gymhwyso darpariaeth o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm at “claimant” fel pe bai’n gyfeiriad at A.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at lety preswylydd mewn cartref gofal, neu at lety a ddarperir ar gyfer preswylydd mewn cartref gofal, yn achos preswylydd sy’n ddarpar breswylydd, fel cyfeiriad at lety sydd i’w ddarparu ar gyfer y preswylydd hwnnw o dan adran 35, 36, 40 neu 45 o’r Ddeddf, neu pan fo’r darpar breswylydd yn cael taliadau uniongyrchol, fel cyfeiriad at lety a sicrheir yn rhinwedd adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, yn achos gofalwr, rhaid darllen cyfeiriadau at ddarparu neu sicrhau gofal a chymorth fel pe baent yn gyfeiriadau at ddarparu neu sicrhau cymorth.

 

RHAN 2

Asesu adnoddau ariannol

Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod lleol

3. Cyn bod awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol yn unol â’r Rheoliadau hyn, rhaid iddo roi’r canlynol i A—

(a)     manylion y gofal a’r cymorth ar gyfer diwallu anghenion A, a gynigir neu a ddarperir i A ac y tybia’r awdurdod lleol y byddai’n gosod ffi mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59 o’r Ddeddf;

(b)     manylion y gofal a’r cymorth yr aseswyd bod eu hangen ar A ac yr ystyrir, neu y gwneir, taliadau uniongyrchol([18]) ar eu cyfer yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf;

(c)     pan fo paragraff (a) yn gymwys, manylion polisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd am ddarparu gofal a chymorth, gan gynnwys—

                           (i)    pa elfennau, os oes rhai, y caniateir codi ffi amdanynt,

                         (ii)    y ffi safonol([19]) y caniateir ei gosod mewn perthynas ag unrhyw rai ohonynt,

                       (iii)    unrhyw ofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth y gosodir ffi unffurf amdano,

                        (iv)    y ffi wythnosol uchaf([20]) y caniateir ei gosod, neu’r ffi wythnosol uchaf a godir gan yr awdurdod lleol pan fo’r ffi honno’n llai;

(d)     pan fo paragraff (b) yn gymwys, manylion polisi’r awdurdod lleol ar daliadau uniongyrchol, a rhaid cynnwys y canlynol—

                           (i)    manylion y gofal a chymorth, os oes gofal a chymorth, y caniateir darparu, neu y darperir, taliadau uniongyrchol ar eu cyfer, ac mewn cysylltiad â hwy y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu tuag at y gost o’u sicrhau,

                         (ii)    manylion y swm safonol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth o’r fath,

                       (iii)    unrhyw ofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth y gosodir ffi unffurf amdano,


                        (iv)    swm y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf([21]) y caniateir ei osod neu swm y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf a godir gan yr awdurdod lleol, pan fo’r swm hwnnw’n llai;

(e)     manylion proses asesu ariannol yr awdurdod lleol;

(f)      manylion yr wybodaeth ac unrhyw ddogfennau y mae’n ofynnol bod A yn eu darparu i’r awdurdod lleol at ddibenion yr asesiad ariannol, a’r terfyn amser a’r fformat ar gyfer eu darparu;

(g)     gwybodaeth am ganlyniadau methiant i ddarparu’r wybodaeth a’r dogfennau o fewn y terfyn amser ac mewn fformat priodol;

(h)     gwybodaeth am ganlyniadau peidio â darparu’r wybodaeth neu’r dogfennau sy’n ofynnol at ddibenion yr asesiad, neu wrthod caniatáu i’r awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol;

(i)      gwybodaeth am y datganiad o ddyfarniad ynghylch gallu A i dalu ffi am ofal a chymorth A, neu i dalu tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth A, y bydd yr awdurdod lleol yn ei ddarparu ar ôl cwblhau’r broses asesu ariannol([22]);

(j)      manylion y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 11 neu reoliad 26 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd a gwybodaeth am ganlyniadau([23]) asesu bod A yn meddu ar gyfalaf sy’n fwy na’r terfyn hwnnw;

(k)     manylion unrhyw gyfleuster ymweld â’r cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;

(l)      enwau unigolyn neu unigolion o fewn yr awdurdod y caniateir cysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth neu gynhorthwy ar A mewn cysylltiad â’r broses asesu ariannol; ac

(m)   gwybodaeth am hawl A i benodi trydydd parti i gynorthwyo neu weithredu ar ran A mewn cysylltiad â’r cyfan neu ran o’r broses asesu ariannol a manylion cyswllt unrhyw sefydliad yn ardal yr awdurdod sy’n darparu’r math hwnnw o gymorth neu gynhorthwy.

Terfynau amser

4.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol ganiatáu 15 diwrnod gwaith neu pa bynnag gyfnod hwy y tybia sy’n rhesymol i A, ar gyfer darparu’r wybodaeth a’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 3(f).

(2)  Os yw A yn gwneud cais rhesymol am estyn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (1), gan roi rhesymau pam y mae angen yr estyniad, rhaid i’r awdurdod lleol gytuno â’r cais a hysbysu A o gyfnod yr estyniad.

(3) Os bydd awdurdod lleol yn gwrthod cais am estyn y terfyn amser, rhaid iddo hysbysu A ynghylch y gwrthodiad a rhaid iddo roi’r rhesymau pam y mae’n gwrthod.

Fformat

5.(1)(1) Caiff yr wybodaeth a ddarperir gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 3 fod mewn fformat electronig neu ar bapur, a rhaid iddi fod mewn fformat sy’n addas ar gyfer anghenion cyfathrebu A.

(2) Rhaid i’r wybodaeth a’r dogfennau sydd i’w darparu gan A o dan reoliad 3(f) fod mewn fformat electronig neu ar bapur, neu pa bynnag fformat arall y mae’r awdurdod lleol wedi cytuno i’w derbyn ynddo.

Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol

6.(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn tybio—

(a)     y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd), pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth;

(b)     pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf([24]), y byddai’n ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu drwy wneud ad-daliad([25]) (yn achos taliad gros) neu gyfraniad (yn achos taliad net) tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth,

rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol A yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo A yn dod o fewn unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7.

Amgylchiadau pan nad oes dyletswydd i gynnal asesiad ariannol

7.(1)(1) Nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o adnoddau ariannol A mewn amgylchiadau pan fo A—

(a)     wedi ei asesu yn rhywun sydd arno angen, neu sy’n cael, gofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth, neu unrhyw gyfuniad o’r cyfryw, y codir ffi unffurf amdano gan yr awdurdod lleol;

(b)     yn gwrthod cael asesiad ariannol;

(c)     yn methu â darparu i’r awdurdod lleol yr wybodaeth neu’r dogfennau sy’n ofynnol gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 3(f), o fewn amser rhesymol neu o gwbl;

(d)     yn dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob, ac wedi cael diagnosis o’r clefyd hwnnw gan ymarferydd meddygol cofrestredig;

(e)     wedi cael cynnig, neu yn cael, gofal a chymorth, cyngor neu wasanaeth, neu wedi cael cynnig taliad uniongyrchol, neu wedi cael ei ddarparu â thaliadau uniongyrchol, i sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)([26]);

(f)      wedi cael cynnig neu yn cael gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, os yw’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;

(g)     wedi ei asesu yn rhywun sydd arno angen, neu sy’n cael, gwasanaethau eiriolaeth yn unig([27]).

(2) Pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys, caiff awdurdod lleol, os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol, wneud asesiad o adnoddau ariannol A ar sail yr wybodaeth rannol neu’r ddogfennaeth rannol (neu’r ddau) sydd yn ei feddiant.

Pŵer i gynnal asesiad ariannol

8. Caiff awdurdod lleol gynnal asesiad newydd o adnoddau ariannol A yn unol â’r Rheoliadau hyn os yw unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 15 (dyfarniad diwygiedig) neu reoliad 30 (dyfarniad diwygiedig) o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn gymwys yn achos A.

Proses asesiad ariannol

9.(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol yn unol â rheoliad 6 (dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) neu reoliad 8 (pŵer i gynnal asesiad ariannol), rhaid iddo sicrhau bod y broses asesu a ddefnyddir ganddo yn rhoi effaith i ofynion y rheoliad hwn.

(2) Pan fo awdurdod lleol yn diwallu neu’n bwriadu diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu pan fo’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, taliadau uniongyrchol tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i ddiwallu anghenion A rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal, rhaid iddo—

(a)     cyfrifo cyfalaf A yn unol â darpariaethau Rhan 4;

(b)     diystyru gwerth unig neu brif gartref A yn y cyfrifiad hwnnw.

(3) Pan fo awdurdod lleol yn diwallu neu’n bwriadu diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu pan fo’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, taliadau uniongyrchol tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion A drwy ddarparu llety mewn cartref gofal, rhaid iddo gyfrifo cyfalaf A yn unol â darpariaethau Rhan 4.

(4) Nid yw’r ddarpariaeth a wneir ym mharagraffau (2) a (3) yn effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gymhwyso meini prawf mwy haelionus i A na’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Dyletswydd awdurdod lleol i gynnal asesiad ariannol o breswyliwr byrdymor fel pe bai’r preswyliwr yn cael gofal a chymorth rywfodd ac eithrio fel darpariaeth o lety mewn cartref gofal

10. Pan fo A yn breswylydd byrdymor, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol A fel pe bai A yn cael gofal a chymorth, neu’n cael taliadau uniongyrchol i sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal.

Arbediad

11.(1)(1) Pan fo asesiad o adnoddau ariannol A sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y cyfryw asesiad yn parhau i gael effaith er nad oedd wedi ei wneud yn unol â’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn.

(2) Bydd asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith hyd nes disodlir yr asesiad hwnnw gan asesiad o adnoddau ariannol A a gynhelir yn unol â’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn.

Talgrynnu ffracsiynau

12. Pan fo unrhyw asesiad o adnoddau ariannol A yn cynhyrchu ffracsiwn o geiniog, rhaid trin y ffracsiwn hwnnw fel pe bai’n geiniog os yw hynny’n fanteisiol i A; fel arall, rhaid ei anwybyddu.

RHAN 3

Trin a chyfrifo incwm

Cyfrifo incwm

13.(1)(1) Rhaid cyfrifo incwm A ar sail wythnosol drwy benderfynu, yn unol â’r Rhan hon, swm wythnosol cyfanswm incwm A.

(2) At ddibenion paragraff (1) mae incwm yn cynnwys cyfalaf a drinnir fel incwm o dan reoliad 16 ac incwm tybiannol o dan reoliad 17.

Enillion sydd i’w diystyru

14.(1)(1) Wrth gyfrifo incwm A at ddibenion yr asesiad ariannol, rhaid diystyru enillion sy’n deillio o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu enillydd hunangyflogedig.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)     mae i enillion mewn perthynas ag enillydd cyflogedig yr un ystyr ag—

                           (i)    yn rheoliad 35 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006([28]);

                         (ii)    yn rheoliad 35 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006 (enillion enillwyr cyflogedig)([29]), pan fo’r enillydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; a

(b)     mae i enillion mewn perthynas ag enillydd hunangyflogedig yr un ystyr ag yn rheoliad 37 o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (enillion enillwyr hunangyflogedig).

Symiau eraill sydd i’w diystyru

15. Wrth gyfrifo cyfanswm incwm A at ddibenion yr asesiad ariannol, rhaid diystyru unrhyw swm, pan fo’n briodol, a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Cyfalaf a drinnir fel incwm

16.(1)(1) Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy i A mewn rhandaliadau sydd heb eu casglu ar y dyddiad y daw A yn atebol gyntaf i dalu am y gofal a chymorth (neu pan fo, neu pan fydd, A yn cael taliadau uniongyrchol, yn atebol gyntaf i gyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gofal a chymorth), os yw agregiad y rhandaliadau sydd heb eu casglu a swm cyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â Rhan 4 yn fwy na’r swm a bennir yn rheoliad 41(1) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf a drinnir fel incwm).

(2) Rhaid trin unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal fel incwm.

(3) Rhaid trin unrhyw enillion, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel incwm.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.

(5) Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o gyfalaf a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd o dan y Ddeddf.

(6) Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod taliadau i’w gwneud i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol a achoswyd i A, a bod y cyfryw daliadau i’w gwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff A, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, gael eu trin fel incwm.

Incwm tybiannol

17.(1)(1) Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, neu y gallai fod yn atebol i’w dalu tuag at y gost o ddiwallu, neu sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer diwallu, anghenion A.

(2) Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y byddid yn ei drin fel incwm a feddid gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 42(2) i (4A) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm tybiannol).

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.

(4)  Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.

RHAN 4

Trin a chyfrifo cyfalaf

Cyfrifo cyfalaf

18.(1)(1) Cyfalaf A sydd i’w gymryd i ystyriaeth mewn asesiad ariannol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw’r cyfan o gyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon ac unrhyw incwm a drinnir fel cyfalaf o dan reoliad 19.

(2) Wrth gyfrifo cyfalaf person o dan baragraff (1), rhaid diystyru unrhyw gyfalaf, pan fo’n gymwys, a bennir yn Atodlen 2.

Incwm a drinnir fel cyfalaf

19.(1)(1) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o elw neu enillion trethadwy i dreth incwm o dan Atodlen D neu E i Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1998([30]).

(2) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw dâl gwyliau nad yw’n enillion.

(3) Ac eithrio incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 1, 4, 8, 14, 22 a 24 o Atodlen 2, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw incwm A sy’n deillio o gyfalaf, ond hynny yn unig ar y dyddiad pan fo taliad arferol ohono yn ddyledus i A.

(4) Pan fo A yn enillydd cyflogedig, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw flaendal o enillion neu unrhyw fenthyciad a roddir gan gyflogwr A.

(5) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad elusennol neu wirfoddol nad yw’n cael ei dalu neu’n daladwy ar adegau rheolaidd, ac eithrio taliad a wneir o dan y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig), Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2), y Gronfa Byw’n Annibynnol neu Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru([31]).

(6) Rhaid trin fel cyfalaf A unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir i A gan drydydd parti at y diben o gynorthwyo A i dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan y person am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.

(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “y Gronfa”, “Ymddiriedolaeth Eileen”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” ac “y Gronfa Byw’n Annibynnol” yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “the Fund”, “the Eileen Trust”, “the Macfarlane Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) (No. 2) Trust” a “the Independent Living Fund” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig

20. Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan A yn y Deyrnas Unedig yn ôl naill ai ei werth cyfredol ar y farchnad neu ei werth ildio (pa un bynnag yw’r uchaf), llai—

(a)     os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10%; a

(b)     swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig

21. Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan A y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r dull a nodir yn rheoliad 50 o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

Cyfalaf tybiannol

22.(1)(1) Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, ei ad-dalu neu ei gyfrannu tuag at gost gofal a chymorth i ddiwallu ei anghenion, ac eithrio—

(a)     pan fo’r cyfalaf hwnnw’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw anaf personol a’r cyfalaf wedi ei osod ar ymddiried er budd A;

(b)     i’r graddau y mae’r cyfalaf a drinnir fel pe bai A yn ei feddu wedi ei leihau yn unol â rheoliad 23 (y rheol cyfalaf tybiannol lleihaol); neu

(c)     unrhyw swm y cyfeirir ato ym mharagraff 44(1) neu 45(a) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (diystyru digolledu am anafiadau personol neu farwolaeth, a weinyddir gan y Llys).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caniateir trin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad o gyfalaf y byddid yn ei drin fel cyfalaf a feddir gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 51(2) neu (3) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf tybiannol).

(3) At ddibenion paragraff (2), mae rheoliad 51(2)(c) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at Atodlen 2 (cyfrifo cyfalaf) yn lle’r cyfeiriad at Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

(4) Pan drinnir A fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff (1) neu (2), mae darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan A.

Y rheol cyfalaf tybiannol lleihaol

23.(1)(1) Pan drinnir A fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan reoliad 22 (“cyfalaf tybiannol”), yna, am bob wythnos neu ran o wythnos y dyfarnodd yr awdurdod lleol fod A yn atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at gost ei ofal a chymorth ar gyfradd uwch na’r gyfradd y byddid wedi asesu A yn atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau pe na bai gan A gyfalaf tybiannol, rhaid lleihau swm cyfalaf tybiannol A gan ddefnyddio’r dull a nodir ym mharagraff (2).

(2) Rhaid i’r awdurdod lleol leihau swm cyfalaf tybiannol A o’r gwahaniaeth rhwng—

(a)     y gyfradd uchaf y cyfeirir ati ym mharagraff (1); a

(b)     y gyfradd y byddai A, yn unol â hi, wedi ei asesu’n atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at gost y cyfryw ofal a chymorth am yr wythnos honno neu’r rhan honno o wythnos, pe bai A wedi ei asesu yn rhywun sy’n meddu dim cyfalaf tybiannol.

Cyfalaf a ddelir ar y cyd

24.(1)(1) Pan fo gan A ac un neu ragor o bersonau eraill hawl lesiannol mewn meddiant i unrhyw ased cyfalaf ac eithrio buddiant mewn tir—

(a)     onid yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid trin pob person fel pe bai gan bob un ohonynt hawl mewn meddiant i gyfran gyfartal o’r buddiant llesiannol cyfan; a

(b)     rhaid trin yr ased hwnnw fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan A hawl lesiannol mewn meddiant i gyfran sy’n llai neu, yn ôl y digwydd, yn fwy, na chyfran gyfartal o’r ystad lesiannol gyfan.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, cyfran A o’r buddiant llesiannol cyfan fydd y gyfran wirioneddol (fel y’i penderfynir gan yr awdurdod lleol) a rhaid ei thrin fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2015


 

                    ATODLEN 1       Rheoliad 15

Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm

RHAN 1

Symiau sydd i’w diystyru

1. Unrhyw swm a delir fel treth ar incwm a gymerir i ystyriaeth o dan reoliad 13 (cyfrifo incwm).

2.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo gan A anghenion am ofal a chymorth ac eithrio darpariaeth o lety mewn cartref gofal, neu pan fo A yn breswylydd dros dro, unrhyw gostau cysylltiedig â thai y mae A’n atebol am eu talu mewn cysylltiad ag unig neu brif gartref A.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r graddau fod y costau cysylltiedig â thai y mae A yn atebol am eu talu yn daliad, cyfraniad neu ad-daliad neu’n swm a ddiystyrir o dan baragraff 3.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “costau cysylltiedig â thai” (“housing-related costs”) yw unrhyw ad-daliadau morgais, taliadau o rent neu rent tir, treth gyngor neu ffioedd gwasanaeth (ac eithrio ffioedd gwasanaeth sy’n anghymwys o dan Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (ffioedd anghymwys)).

3.(1)(1) Unrhyw daliad y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (budd-dal tai).

(2) Unrhyw daliad o gymhorthdal incwm tuag at gostau tai a ddyfernir yn unol ag Atodlen 3 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (costau tai) neu unrhyw swm y tybia’r awdurdod lleol a ddyfernid fel taliad tuag at gostau tai pe bai A yn cael cymhorthdal incwm.

(3) Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 46 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (lleihau atebolrwydd am dreth gyngor).

4. Unrhyw daliadau uniongyrchol a geir gan A neu ar ran A yn unol ag adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf.

5. Unrhyw daliad mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd gan A, pan fo A—

(a)     wedi ei gymryd ymlaen gan gorff elusennol neu wirfoddol; neu

(b)     yn wirfoddolwr,

os nad yw A yn cael unrhyw gydnabyddiaeth neu elw o’i waith.

6. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 3 neu 4A o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (treuliau enillwyr cyflogedig a thâl salwch statudol yng Ngogledd Iwerddon).

7. Yr elfen symudedd mewn unrhyw lwfans byw i’r anabl neu’r elfen symudedd mewn taliad annibyniaeth bersonol.

8. Unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog.

9. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 8 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (atodiad symudedd).

10. Os yw A yn breswylydd dros dro—

(a)     unrhyw lwfans gweini;

(b)     yr elfen gofal mewn unrhyw lwfans byw i’r anabl; neu

(c)     yr elfen byw dyddiol mewn unrhyw daliad annibyniaeth bersonol.

11. Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu—

(a)     unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 7 neu 10; neu

(b)     unrhyw gymhorthdal incwm.

12. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 10 neu 11 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau i dderbynwyr medalau a dyfarniadau addysgol).

13. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 13 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfranogwyr mewn cynlluniau hyfforddi).

14.(1)(1) Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i baragraffau 45 a 46, unrhyw daliad perthnasol a wneir neu sy’n daladwy ar adegau rheolaidd ac eithrio unrhyw daliad sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 30.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff 46, unrhyw daliad perthnasol a wneir neu sy’n daladwy ar adegau rheolaidd a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer unrhyw eitem nas cymerwyd i ystyriaeth wrth asesu cost resymol diwallu neu sicrhau angen A am ofal a chymorth.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw—

(a)     taliad elusennol;

(b)     taliad gwirfoddol;

(c)     taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) oddi wrth ymddiriedolaeth y mae ei chronfeydd yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A;

(d)     taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—

                           (i)    yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i A; neu

                         (ii)    o gronfeydd sy’n deillio o daliad a wnaed,

o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A;

(e)     taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a gafwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A.

15.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3)—

(a)     pan nad yw A yn preswylio gyda’i briod neu ei bartner sifil; a

(b)     o leiaf 50% o unrhyw bensiwn galwedigaethol A, neu o unrhyw incwm o gynllun pensiwn personol A, yn cael ei dalu i’w briod neu mewn cysylltiad â’i briod ar gyfer cynnal y priod hwnnw, neu i’w bartner sifil ar gyfer cynnal y partner sifil hwnnw,

swm sy’n hafal i 50% o’r pensiwn, pensiynau neu incwm sydd dan sylw.

(2) Pan fo gan A hawl i bensiynau neu incwm y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) o fwy nag un ffynhonnell, rhaid agregu’r holl bensiynau ac incwm y mae hawl gan A i’w cael at ddibenion yr is-baragraff hwnnw.

(3) Nid yw’r paragraff hwn yn cael effaith mewn cysylltiad â’r rhan o unrhyw bensiwn neu incwm y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) y mae hawl gyfreithiol gan briod neu bartner sifil A i’w chael, pa un a yw hynny o dan orchymyn llys ai peidio.

16. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 16 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau penodedig) ac eithrio paragraff 16(cc), ond fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno at baragraffau 36 a 37 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 46 o’r Atodlen hon ac fel pe bai, mewn perthynas â pharagraff 16(a) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, y cyfeiriad yng ngeiriau agoriadol paragraff 16 o’r Atodlen honno at £10 yn gyfeiriad at £25 ac fel bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16(a) at baragraff 8 neu 9 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 9 neu 10 o’r Atodlen hon.

17. Unrhyw daliad incwm gwarantedig y cyfeirir ato yn erthygl 15(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011.

18. Yn ddarostyngedig i baragraff 46, £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, cymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, wedi ei agregu â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr a ddiystyrir, yn fwy na £10.

19. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraffau 17 i 20 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (blwydd-daliadau, taliadau gan drydydd partïon tuag at gostau byw, taliadau contractiol mewn cysylltiad â meddiannu annedd a thaliadau gan letywyr).

20. Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau.

21.(1)(1) Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan A hawl lesiannol iddo, neu y trinnir A o dan reoliad 24 fel pe bai gan A hawl lesiannol iddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 1, 4, 8, 14 neu 22 o Atodlen 2.

(2) Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 4, 22 neu 24 o Atodlen 2, ond yn unig i’r graddau o unrhyw ad-daliadau morgais a thaliadau treth gyngor neu daliadau dŵr y mae A yn atebol i’w gwneud mewn cysylltiad â’r annedd neu’r fangre yn ystod y cyfnod pan fo’r incwm hwnnw yn cronni.

22. Unrhyw incwm a ddiystyrid o dan baragraff 23 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

23. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 24 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ffi neu gomisiwn am drosi incwm i sterling).

24.(1)(1) Unrhyw daliad a wneir i A mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu A—

(a)     yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) neu 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

(b)     yn unol â chynllun lwfans mabwysiadu a wnaed o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (cynlluniau lwfansau mabwysiadu)([32]);

(c)     sydd yn daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol i gynhaliaeth plentyn pan fo plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn trefniadau plentyn)([33]).

(2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

25. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 26 neu 28 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plant mewn gofal, a dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cynhorthwy ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal).

26. Unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a godwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i barhau ad-daliadau ar fenthyciad i gaffael neu gadw buddiant mewn annedd a feddiennir gan A fel ei brif neu unig gartref, neu ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau i’r cartref hwnnw, ac a ddefnyddir ar gyfer ad-daliadau o’r fath, i’r graddau nad yw’n fwy nag agregiad y canlynol—

(a)     swm taladwy, a gyfrifir ar sail wythnosol, unrhyw log ar y benthyciad;

(b)     swm unrhyw daliad, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n daladwy ar y benthyciad ac a briodolir i ad-dalu’r cyfalaf; ac

(c)     swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, y premiwm sy’n daladwy ar y polisi hwnnw.

27. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 31 neu 31A o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau cronfa gymdeithasol a darpariaeth lles lleol).

28. Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad o incwm o dan reoliad 19 (incwm a drinnir fel cyfalaf).

29. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 33 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (bonws Nadolig pensiynwr).

30. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 39 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (y Gronfa, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane ac ymddiriedolaethau a Chronfeydd eraill a’r Gronfa Byw’n Annibynnol).

31. Unrhyw daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru.

32. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 40, 43 a 48 i 51 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (digollediad budd-dal tai, taliadau rheithwyr a thystion, treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd, taliadau bwyd lles, taliadau cynllun ymweliadau carchar a thaliadau cyflogaeth personau anabl).

33.(1)(1) Unrhyw fudd-dal plant, ac eithrio mewn amgylchiadau pan fo’r plentyn neu’r person ifanc cymwys y mae’r budd-dal plant yn daladwy mewn cysylltiad ag ef gydag A, a llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc cymwys hwnnw yn unol â’r Ddeddf.

(2) Yn y paragraff hwn, mae i “plentyn” a “person ifanc cymwys”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “child” a “qualifying young person” yn adran 142 o Ddeddf 1992.

34. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 53 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (codiadau mewn cyfraddau budd-daliadau etc.).

35. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraffau 54 i 56 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau atodol etc.).

36. Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol i A, neu ar ran A, mewn perthynas â gwasanaethau lles y talwyd grant i’r awdurdod lleol mewn cysylltiad â hwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, pan fo A yn gymwys i gael y taliad hwnnw.

37. Unrhyw lwfans gwarcheidwad.

38. Unrhyw gredyd treth plant.

39. Unrhyw gredyd treth gwaith.

40.(1)(1) Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person heb bartner a chydag incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—

(a)     swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £5.75 neu’n llai; neu

(b)     £5.75 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy na £5.75.

(2) Pan fo A—

(a)     heb bartner;

(b)     wedi cyrraedd 65 oed; ac

(c)     gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,

swm o £5.75.

(3) Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person sydd â phartner ac incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—

(a)     swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £8.60 neu’n llai; neu

(b)     £8.60 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy nag £8.60.

(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), pan fo A—

(a)     gyda phartner;

(b)     wedi—

                           (i)    cyrraedd 65 oed; neu

                         (ii)    wedi cyrraedd oedran credyd pensiwn a phartner A wedi cyrraedd 65 oed; ac

(c)     gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,

swm o £8.60.

(5) Pan fo—

(a)     y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) wedi ei ddiystyru wrth asesu incwm partner A o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)     partner A yn derbyn credyd cynilion,

nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i A.

(6) At ddibenion y paragraff hwn—

(a)     mae gan A bartner os ystyrid bod gan A bartner at ddibenion y Rheoliadau Credyd Pensiwn;

(b)     mae “incwm cymhwyso” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “qualifying income” yn rheoliad 9 o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn, ac at ddibenion is-baragraffau (3) a (4) mae incwm cymhwyso A yn cynnwys unrhyw incwm cymhwyso sydd gan bartner A;

(c)     ystyr “gwarant isafswm safonol” (“standard minimum guarantee”) yw, at ddibenion—

                           (i)    is-baragraffau (1) a (2), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn; a

                         (ii)    is-baragraffau (3) a (4), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn.

41. Unrhyw daliad i breswylydd dros dro a wneir yn lle glo consesiynol yn unol ag adran 19(1)(b) neu (c) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994([34]).

42. Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968([35]) (“Deddf 1968”) (lwfansau teithio a lwfansau eraill i bersonau sy’n manteisio ar hyfforddiant) at y diben o dalu costau gofal plant pan ddarperir yr hyfforddiant yn unol ag—

(a)     adran 63(1)(a) o Ddeddf 1968; neu

(b)     adran 63(1)(b) o Ddeddf 1968 a phan fo A yn cael ei gyflogi mewn gweithgaredd, neu’n ystyried cael ei gyflogi mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â, neu sy’n gysylltiedig â, gwasanaeth y mae’n rhaid, neu y caniateir, ei ddarparu neu ei sicrhau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

43. Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidwaid arbennig)([36]) pan fo A yn ddarpar warcheidwad arbennig neu’n warcheidwad arbennig.

44.(1)(1) Pan fo A yn fyfyriwr, unrhyw grant neu ddyfarniad arall, benthyciad myfyriwr, incwm a ddefnyddir i wneud ad-daliadau ar fenthyciad myfyriwr neu daliad arall a gafwyd gan A at ddibenion ei gwrs o astudiaeth mewn sefydliad addysgol.

(2) Yn y paragraff hwn, mae i “cwrs o astudiaeth”, “myfyriwr” a “benthyciad myfyriwr”, yn eu trefn, yr un ystyron ag a roddir i “course of study”, “student” a “student loan” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

RHAN 2

 

Darpariaethau arbennig sy’n ymwneud â thaliadau elusennol neu wirfoddol a phensiynau penodol

 

45. Nid yw paragraff 14 yn gymwys i unrhyw daliad a wneir neu sy’n daladwy—

(a)     gan A ar gyfer cynnal unrhyw aelod o deulu A neu gynnal partner blaenorol A neu gynnal plant A; neu

(b)     gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti hwnnw mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol am lety A, neu mewn cysylltiad â llety A.

46. Ni chaiff cyfanswm yr incwm a ddiystyrir yn unol â pharagraffau 14(2) ac 16, mewn unrhyw achos, fod yn fwy na’r swm wythnosol a bennir ym mharagraff 36 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (nenfwd o £20 yr wythnos ar agregiadau a ddiystyrir).

                    ATODLEN 2   Rheoliad 18(2)

Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

1.(1)(1) Pan fo A yn breswylydd dros dro ond nid yn ddarpar breswylydd, gwerth prif neu unig gartref A mewn amgylchiadau pan fo—

(a)     A yn cymryd camau rhesymol i waredu’r annedd er mwyn caffael annedd arall y bwriada ei meddiannu fel ei brif neu ei unig gartref; neu

(b)     A yn bwriadu dychwelyd i feddiannu’r annedd honno fel ei brif neu ei unig gartref, a’r annedd yn parhau ar gael i A.

(2) Pan fo A yn breswylydd dros dro sydd yn ddarpar breswylydd, gwerth prif neu unig gartref A mewn amgylchiadau pan fo A yn bwriadu, ar ôl darparu neu sicrhau llety mewn gwirionedd iddo yn unol â’r Ddeddf—

(a)     cymryd camau rhesymol i waredu’r annedd er mwyn caffael annedd arall y bwriada ei meddiannu fel ei brif neu ei unig gartref; neu

(b)     dychwelyd i feddiannu’r annedd honno fel ei brif neu ei unig gartref, a’r annedd y bwriada A ddychwelyd iddi ar gael i A.

2.(1)(1) Pan fo A yn breswylydd parhaol, gwerth prif neu unig gartref A, y byddai A fel arall yn ei feddiannu fel arfer (“cartref A”) am gyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae A yn symud i mewn gyntaf i lety mewn cartref gofal (“y cyfnod preswylio parhaol cyntaf”).

(2) Pan fo A—

(a)     yn peidio â bod yn breswylydd parhaol; a

(b)     wedyn yn dod yn breswylydd parhaol drachefn ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 52 wythnos sy’n dechrau ar ôl diwedd y cyfnod preswylio parhaol cyntaf,

gwerth cartref A am y cyfryw gyfnod (os oes un) na fydd, o’i ychwanegu at y cyfnod a ddiystyrwyd o dan is-baragraff (1) mewn cysylltiad â’r cyfnod preswylio parhaol cyntaf, yn gwneud cyfanswm o fwy na 12 wythnos.

(3) Pan fo A—

(a)     yn peidio â bod yn breswylydd parhaol, ac yntau’n berson na fu is-baragraff (2) yn gymwys iddo; a

(b)     wedyn yn dod yn breswylydd parhaol drachefn ar unrhyw adeg ar ôl cyfnod o 52 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod preswylio parhaol cyntaf,

gwerth cartref A am gyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ail gyfnod preswylio parhaol yn dechrau.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “yr ail gyfnod preswylio parhaol” (“the second period of permanent residence”) yw’r cyfnod o breswylio parhaol sy’n dechrau ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod o 52 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

3. Pan fo A yn breswylydd parhaol, a newid annisgwyl yn digwydd yn ei amgylchiadau ariannol, caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwerth prif neu unig gartref A, y byddai A fel arall yn ei feddiannu fel arfer, am gyfnod o 12 wythnos.

4.(1)(1) Gwerth unrhyw fangre—

(a)      a ddiystyrid o dan baragraff 2 neu 4(b) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (mangre a gaffaelwyd ar gyfer ei meddiannu, a mangre a feddiennir gan gyn-bartner) ond fel pe rhoddid, ym mhob darpariaeth, y geiriau “his main or only home” yn lle “his home”; neu

(b)     a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A, a fu’n meddiannu’r fangre fel ei brif neu ei unig gartref ers rhywdro cyn y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

(2) Caiff awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A os meddiannwyd y fangre gan y perthynas cymwys ar ôl y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

(3) Gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos pan fo’r awdurdod lleol wedi diystyru gwerth y fangre o dan is-baragraff (1)(b) neu (2) a naill ai bu farw’r perthynas hwnnw neu nad yw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd bod llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau iddo mewn cartref gofal.

(4) Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos os oedd y fangre wedi ei meddiannu yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan berthynas cymwys i A fel ei brif neu ei unig gartref ac nad yw’r perthynas hwnnw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd newid annisgwyl yn ei amgylchiadau.

(5) Yn y paragraff hwn—

ystyr “perthynas cymwys” (“qualifying relative”) yw—

(a)     partner A;

(b)     aelod arall o deulu A neu berthynas i A sy’n 60 oed neu’n hŷn neu sy’n analluog; neu

(c)     plentyn sydd o dan 18 oed;

mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “child” yn adran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu 1987([37]).

5. Pan fo A yn breswylydd sydd wedi peidio â meddiannu’r annedd yr arferai ei meddiannu fel ei brif neu ei unig gartref ar ôl ymwahanu neu ysgaru oddi wrth ei gyn-bartner, gwerth buddiant A yn yr annedd honno os yw’r cyn-bartner, sy’n unig riant, yn parhau i’w meddiannu fel ei gartref.

6. Gwerth derbyniadau gwerthiant unrhyw fangre a ddiystyrid o dan baragraff 3 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (derbyniadau gwerthiant mangre yr arferid ei meddiannu).

7. Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo a ddiystyrid o dan baragraff 5 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (buddiannau yn y dyfodol mewn eiddo ac eithrio tir neu fangreoedd penodol).

8. Unrhyw asedau a ddiystyrid o dan baragraff 6 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (asedau busnes), ond fel pe rhoddid, yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, yn lle’r geiriau o “the claim for income support” hyd at ddiwedd yr is-baragraff—

(a)     pan fo A yn breswylydd ac eithrio darpar breswylydd, y geiriau “the accommodation was initially provided or secured”;

(b)     pan fo A yn ddarpar breswylydd, y geiriau “the local authority began to assess A’s ability to pay for, contribute, or make reimbursements towards the cost of their accommodation under these Regulations and the Care and Support (Charging) (Wales) Regulations 2015”.

9. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 7(1) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ôl-ddyledion o daliadau penodedig), ond fel pe bai’r geiriau “Subject to sub-paragraph (2)” ar ddechrau’r is-baragraff hwnnw wedi eu hepgor a’r cyfeiriad ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw at baragraffau 6, 8 neu 9 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm arall sydd i’w ddiystyru) yn gyfeiriad at baragraffau 7 i 10 o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm).

10. Unrhyw ôl-daliad, neu unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd ôl-ddyled a achoswyd gan fethiant i dalu—

(a)     credyd treth plant;

(b)     credyd treth gwaith;

(c)     taliad a wneir o dan unrhyw un o’r canlynol—

                           (i)    Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881;

                         (ii)    y warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884;

                       (iii)    y Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922,

i wraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron ac y terfynodd eu gwasanaeth mewn swydd o’r fath cyn 31 Mawrth 1973, ond hyn yn unig am gyfnod o 52 wythnos o’r dyddiad y cafwyd yr ôl-daliad neu’r taliad consesiynol.

11. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 8 neu 9 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (atgyweiriadau i eiddo ac ernesau cymdeithasau tai).

12. Unrhyw eitemau o eiddo personol ac eithrio rhai sydd, neu a oedd, wedi eu caffael gan A gyda’r bwriad o leihau ei gyfalaf er mwyn bodloni awdurdod lleol ei fod yn analluog i dalu tuag at gost ei ofal a chymorth neu gynhorthwy. 

13. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 11 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm o dan flwydd-dal).

14. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 12 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ymddiriedolaethau anaf personol).

15. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 12A o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau anaf personol) ac eithrio unrhyw daliad neu unrhyw ran o unrhyw daliad sydd wedi ei enwi’n benodol gan lys ar gyfer delio â’r gost o ddarparu gofal.

16. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 13 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (buddiant am oes neu rent am oes).

17. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm a ddiystyrir o dan baragraff 20 o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm).

18. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 15, 16, 18, 18A neu 19 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (gwerth ildio polisi yswiriant bywyd, rhandaliadau heb eu casglu, taliadau cronfa gymdeithasol, darpariaeth lles lleol ac ad-daliadau treth ar log benthyciadau penodol).

19. Unrhyw gyfalaf sydd, o dan reoliad 16 (cyfalaf a drinnir fel incwm), i’w drin fel incwm.

20. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (tâl neu gomisiwn am drosi cyfalaf i sterling, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa a’r Gronfa Byw’n Annibynnol, gwerth yr hawl i gael pensiwn personol neu alwedigaethol, gwerth cronfeydd o dan gynllun pensiwn personol a rhent).

21. Unrhyw swm a delir o dan neu gan Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru.

22. Gwerth unrhyw fangre a ddiystyrid o dan baragraff 27 neu 28 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (mangre y mae hawlydd yn bwriadu ei meddiannu) ond fel pe rhoddid, ym mhob darpariaeth, y geiriau “his main or only home” yn lle “his home”.

23. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 29 i 31, 34 a 36 i 43 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau o gronfeydd mewn nwyddau neu wasanaethau, bonysau hyfforddi, digollediad budd-dal tai, taliadau i reithwyr neu dystion, lleihad mewn atebolrwydd am dâl cymunedol personol, grantiau tai, treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd, taliadau bwyd lles, grant iechyd yn ystod beichiogrwydd, taliadau cynllun ymweliadau carchar, taliadau arbennig i weddwon rhyfel, taliadau cyflogaeth i bersonau anabl, a thaliadau i ddeillion sy’n gweithio gartref).

24. Gwerth unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan drydydd parti, pan fo’r awdurdod lleol o’r farn y byddai’n rhesymol diystyru gwerth y fangre honno.

25. Unrhyw swm—

(a)     sy’n dod o fewn paragraff 44(2)(a) (iawndal am anaf personol), ac y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 44(1)(a) neu (b), o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm; neu

(b)     y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 45(a) o’r Atodlen honno.

26. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 61 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliad ex gratia a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd).

27. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 64 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd allan o gronfeydd a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â phersonau a ddioddefodd neu sy’n dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob).

28. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol i A, neu ar ran A, mewn perthynas â gwasanaethau lles y talwyd grant i’r awdurdod lleol mewn cysylltiad â hwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, pan fo A yn gymwys i gael y taliad.

29. Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) neu 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

30. Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oed 2004 (hawlogaeth: achosion sylfaenol neu arbennig)([38]).

31. Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ran 2 (taliadau i bersonau dros 65 oed) neu Ran 3 (taliadau i bersonau sy’n cael credyd gwarant) o Reoliadau Taliadau ar Sail Oedran 2005([39]).

32. Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (“Deddf 1968”) (lwfansau teithio a lwfansau eraill i bersonau sy’n manteisio ar hyfforddiant) at y diben o dalu costau gofal plant pan ddarperir yr hyfforddiant yn unol ag—

(a)     adran 63(1)(a) o Ddeddf 1968; neu

(b)     adran 63(1)(b) o Ddeddf 1968 a phan fo A yn cael ei gyflogi mewn gweithgaredd, neu’n ystyried cael ei gyflogi mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â, neu sy’n gysylltiedig â, gwasanaeth y mae’n rhaid, neu y caniateir, ei ddarparu neu ei sicrhau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

33. Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidwaid arbennig) pan fo A yn ddarpar warcheidwad arbennig neu’n warcheidwad arbennig.

34. Unrhyw daliad a wneir i A o dan reoliadau a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oedran 2004 (pŵer i ddarparu taliadau yn y dyfodol).

 

 

 



([1])           2014 dccc 4.

([2])           Gweler adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) am y diffiniadau o “rheoliadau” a “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd”.

([3])           2002 p. 21.

([4])           Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am ystyr “cartref gofal”.

([5])           1992 p. 4.

([6])           1971 p. 80.

([7])           Diwygiwyd adran 2(1)(a) gan baragraffau 169 a 171 o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac adran 15(1) o Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2014 (p. 7).

([8])           Bydd awdurdod lleol yn pennu hyd y cyfnod gofal a chymorth ailalluogi y mae ei angen ar A yn seiliedig ar anghenion asesedig A.

([9])           O.S. 2006/606; diwygiwyd erthygl 10 gan O.S. 2008/679 a 2013/630.

([10])         O.S. 1983/686; diwygiwyd erthygl 16 gan O.S. 1984/1675 a 2001/420.

([11])         2002 p. 16.

([12])         O.S. 2002/1792.

([13])         O.S. 1987/1967.

([14])         O.S. 2015/1843 (Cy. 271)

([15])         2012 p. 5.

([16])         O.S. 2011/517.

([17])         1992 p. 14.

([18])         Diffinnir “taliad uniongyrchol” yn adran 50(7) ac adran 52(7) o’r Ddeddf.

([19])         Diffinnir “ffi safonol” yn adran 63(3) o’r Ddeddf, fel “…[y] swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw”. Mae adran 59(2) o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd) yn darparu y caiff ffi a osodir o dan is-adran (1) gwmpasu dim mwy na’r gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddynt.

([20])         Pennir y “ffi wythnosol uchaf” yn rheoliad 7 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd ac mae’n gymwys mewn perthynas â darparu gofal a chymorth i ddiwallu angen asesedig ac eithrio drwy ddarparu llety mewn cartref gofal.

([21])         Pennir “y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf”, ac ar ba sail y caiff awdurdod lleol ei gyfrifo, yn rheoliad 22 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd ac mae’n gymwys mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol a wneir i sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth er mwyn diwallu angen asesedig rywfodd ac eithrio drwy ddarparu llety mewn cartref gofal.

([22])         Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu datganiad o ddyfarniad yn rheoliad 14 (datganiad o ddyfarniad) neu reoliad 29 (datganiad o ddyfarniad – taliadau uniongyrchol) o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd.

([23])         Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn ddiffinio’r “terfyn cyfalaf”. Y terfyn cyfalaf yw’r uchafswm cyfalaf y caniateir i berson feddu arno, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r ffi safonol neu’r swm safonol yn llawn. Pennir swm y terfyn cyfalaf yn y Rheoliadau Gosod Ffioedd, yn rheoliad 11 (sy’n ymwneud â ffioedd) a rheoliad 26 (sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol).

([24])         Mae adran 53(3) o’r Ddeddf (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach) yn darparu y caiff rheoliadau a wneir yn unol ag adrannau 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf wneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir, neu y caniateir ei gwneud, o dan adrannau 59 i 67 neu adran 73 o’r Ddeddf.

([25])         Diffinnir “ad-daliad”, “taliad gros”, “cyfraniad” a “taliad net” yn adran 53(2) o’r Ddeddf.

([26])         1983 p. 20.

([27])         Diffinnir “gwasanaethau eirioli” yn adran 181(2) o’r Ddeddf fel “…[g]wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth”.

([28])         O.S. 2006/213. Diwygiwyd rheoliad 35 gan O.S. 2007/2618, 2009/2655, 2014/591 a 3255.

([29])         O.S.2006/214. Diwygiwyd rheoliad 35 gan O.S. 2009/2655, 2012/757, 2014/591 a 3255.

([30])         1998 p. 1.

([31])         Bydd cyn-dderbynwyr taliadau o’r Gronfa Byw’n Annibynnol (sydd wedi cau bellach) yn cael taliadau o Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru a hynny’n effeithiol o fis Gorffennaf 2015.

([32])         2007 dsa 4.

([33])         1989 p. 41 (“Deddf 1989”). Diwygiwyd adran 15(1) o Ddeddf 1989 gan baragraff 10(1) o Atodlen 16 i Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41). Diwygiwyd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1989 gan adran 78(3) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 40(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).

([34])         1994 p. 21.

([35])         1968 p. 46.

([36])         Mewnosodwyd adran 14F gan adran 115(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).

([37])         1987 p. 42.

([38])         2004 p. 10.

([39])         O.S. 2005/1983.